Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Medi 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Alun Ffred Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Russell George AC Llyr Gruffydd AC Julie Morgan AC William Powell AC Antoinette Sandbach AC Joyce Watson AC Jeff Cuthbert AC (yn lle Gwyn R Price AC) Jenny Rathbone AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Prys Davies, Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwyn Price a Julie James yn sgil ei phenodiad yn Ddirprwy Weinidog. Roedd Jeff Cuthbert a Jenny Rathbone yn bresennol fel dirprwyon.
2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
2.1 Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i:
· Ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu nodyn cynhwysfawr ar yr agenda polisi bioamrywiaeth.
· Ystyried cyhoeddi adroddiad yr archwiliad a wnaed i gamau gweithredu bioamrywiaeth a gynhaliwyd gan adrannau’r Llywodraeth.
· Ystyried darparu dangosyddion perfformiad allweddol/data gwaelodlin a ddefnyddir i fesur canlyniadau’r Cynllun Adfer Natur.
· Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda gwybodaeth am y pwyntiau a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch nwy siâl / ffracio.
· Ystyried gwneud datganiad wedi’i ddiweddaru ar safbwynt y Llywodraeth ar nwy siâl / ffracio.
· Darparu’r siart llif i’r Pwyllgor a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ymwneud â’r prosesau cynllunio mewn cysylltiad â ffracio.
· Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda’r diweddaraf am raglen Ynni’r Fro, gyda’r ffigurau sydd ar gael.
· Ysgrifennu at y Pwyllgor i roi eglurhad ar eithriad y Goron yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru.
· Ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi manylion am y dyddiad y cyhoeddir y Strategaeth Ddŵr, a darparu nodyn ar gynnydd y pum argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Paratoi ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor
5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor seminar wrth baratoi i ystyried Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
6 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu adroddiad Cymorth TB gyda’r Pwyllgor.
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro safbwynt y Llywodraeth ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mewn perthynas â’r gofynion Gwyrddu newydd.
6.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sector cynnyrch llaeth.
7 Papurau i’w nodi
Cynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar rwydi drifft: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd i lythyr gan y Cadeirydd ar 24 Mehefin.
7.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru: Gwybodaeth bellach gan WRAP Cymru.
7.2 Nododd y Pwyllgor y papur.
Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Seilwaith: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i lythyr gan y Cadeirydd ar 21 Gorffennaf.
7.3 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Polisi dŵr yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon at y cadeirydd.
7.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r adroddiad a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf.
7.5 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru: Rhagor o wybodaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru
7.6 Nododd y Pwyllgor y papur.
Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir: Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 16 Mehefin
7.7 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.